Diwrnod Mabolgampau – Sports Day

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd ein disgyblion ddiwrnod Chwaraeon gwych, yn llawn brwdfrydedd, penderfyniad ac ysbryd tîm. Roedd yn braf gweld pob plentyn yn cymryd rhan ag agwedd mor gadarnhaol, yn gwneud ei orau glas ac yn annog ei gilydd drwy gydol y dydd.
Roeddem yn hynod falch o ymddygiad rhagorol ein holl ddisgyblion, a fu’n glod i’r ysgol ac a wnaeth y digwyddiad yn bleserus i bawb.
Diolch yn fawr i’n teuluoedd a’n ffrindiau a ddaeth i gefnogi’r plant. Roedd eich cefnogaeth a’ch anogaeth o’r llinell ochr yn helpu i wneud y diwrnod yn un arbennig iawn.
Da iawn i bawb a gymerodd ran – dylech fod yn falch iawn o’ch ymdrechion. Edrychwn ymlaen yn barod at Ddiwrnod Chwaraeon y flwyddyn nesaf!


Last week, our pupils enjoyed a fantastic Sports Day filled with enthusiasm, determination and team spirit. It was wonderful to see every child taking part with such positive attitudes, trying their very best and encouraging one another throughout the day.
We were incredibly proud of the excellent behaviour shown by all of our pupils, who represented our school so well and made the event enjoyable for everyone.
A huge thank you to all of our families and friends who came along to support the children. Your encouragement and cheers from the sidelines helped make the day extra special.
Well done to everyone who took part – you should all be very proud of your efforts. We are already looking forward to next year’s Sports Day!