Yr wythnos ddiwethaf, cafodd Dosbarth Alarch ddiwrnod gwych ar eu hymweliad â Pharc Fferm Manorafon yn Abergele. Cafodd pawb ddiwrnod bendigedig, ac roedd pob un o’r plant yn ymddwyn yn arbennig o dda drwy gydol y daith.
Mwynhaodd y plant weld yr anifeiliaid amrywiol, dysgu mwy amdanynt, a chael y cyfle i ddod yn agos at rai o’u hoff anifeiliaid. Cawsant hefyd lawer o hwyl yn chwarae yn y parc antur ac yn cymryd rhan yn y gweithgareddau cyffrous eraill oedd ar gael.
Roedd yn ddiwrnod llawn gwên, chwerthin ac atgofion hyfryd. Rydym yn falch iawn o’r holl blant am gynrychioli’r ysgol mor dda, a hoffem ddiolch i staff Parc Fferm Manorafon am wneud ein hymweliad mor bleserus.
**************************************
Last week, Alarch Class enjoyed a fantastic school trip to Manorafon Farm Park in Abergele. Everyone had a wonderful day, and all of the children were brilliantly behaved throughout the visit.
The children loved meeting and seeing the different animals, learning more about them, and enjoying the opportunity to get up close to some of their favourites. They also had great fun exploring the adventure play areas, playing in the park, and taking part in the other exciting activities on offer.
It was a fantastic day filled with smiles, laughter, and lots of memorable experiences. We are very proud of all the children for representing our school so well and would like to thank the staff at Manorafon Farm Park for making our visit so enjoyable.











