Swyddogion Diogelu Plant yr Ysgol /
School Child Protection Officers
Mrs Rhiannon James – Pennaeth / Headteacher – Person Dynodedig Diogelu’r Ysgol/ School Safeguarding Designated Person
Mrs Lowri Parry (Dirprwy Person Dynodedig Diogelu’r Ysgol – School’s Deputy Safeguarding Designated Person)
Cynghorydd Carrie Harper – Llywodraethwraig / Governor
Rhifau Cyswllt Diogelu – Safeguarding Contact Numbers SPOA – 01978 292039
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch lles neu diogelwch plentyn, yna mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol i gael arweiniad.
If you have any concerns regarding a child’s welfare or safety then please do not hesitate to contact the school for guidance.
Absenoldebau / Absences
Er mwyn cadarnhau diogelwch pawb, cofiwch hysbysu swyddfa’r ysgol drwy alwad ffôn os yw eich plentyn yn absennol am unrhyw reswm. Os na fyddwn yn clywed gennych erbyn 09:30yb bydd yr ysgol yn cysylltu â chi.
Please remember to notify the school office via phone call if your child is absent for any reason. Should we not hear from you by 09:30am the school will contact you.
Newidiadau i drefniadau diwedd y dydd – Changes to end of day arrangements –
Oni bai am amgylchiadau argyfwng, ebostiwch neu ffoniwch y Swyddfa gydag unrhyw newidiadau cyn 12:00yp os gwelwch yn dda.
With the exception of emergency situations, please email or ring the school with any changes to your usual arrangements by 12:00pm.
Diweddaru Manylion Personol / Updating Personal Details
Cofiwch i rannu unrhyw newidiadau manylion personol e.e. rhifau ffôn gyda ni
Please remember to update us with any changes to your personal information e.g. phone numbers.
Damweiniau yn yr Ysgol / Accidents in school
Fe fyddwn ni’n blaenoriaethu cysylltu â Rhieni ar gyfer anafiadau pen neu cwymp difrifol.
We will prioritise contacting Parents following bumps to the head or nasty/serious falls
Operation Encompass
Mewn cydweithrediad â Heddlu Gogledd Cymru, mae Ysgol Llan-y-pwll yn cymryd rhan mewn menter genedlaethol, a elwir yn ‘Encompass,’ i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi bod yn gysylltiedig â, neu wedi bod yn dystion i ddigwyddiad cam-drin domestig.
Mae Encompass yn anelu at wneud yn siŵr bod yr ysgol yn cael gwybod am y cam-drin domestig mae plentyn wedi ei ddioddef neu wedi ei weld cyn gynted â phosib er mwyn gallu cynnig cymorth ar unwaith. Mae hwn yn fenter werthfawr sy’n golygu y gallwn helpu a chefnogi ein disgyblion a’u teuluoedd pan fyddant yn ei angen fwyaf.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Encompass –https://www.operationencompass.org/
In conjunction with North Wales Police, Ysgol Llan-y-pwll is participating in a national initiative, known as ‘Encompass,’ to support children and young people who have been involved in, or witness to a domestic abuse incident.
Encompass aims for a school to be alerted of a child’s exposure to domestic abuse as early as possible so to enable immediate support. This is a valuable initiative that means we can help and support our pupils and their families when they need us most.
You can find out more information on the Encompass website – https://www.operationencompass.org/