🌟 Dathlu sgiliau Cymraeg yn Siaradfest! 🗣️❤️
Cymerodd tri o’n disgyblion ran yn Siaradfest yn Nhŷ Pawb heddiw, fel rhan o gynllun peilot i ddatblygu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
Mae’r cyfle cyffrous hwn yn rhan o brosiect Cyflawni’r Nod, yn dilyn ymweliad gan arweinwyr ysgolion â Fryslân i archwilio amlieithrwydd a sut mae gwahanol ieithoedd yn cael eu defnyddio mewn bywyd bob dydd.
Roedd ein disgyblion yn glod i’r ysgol — yn ymddwyn yn arbennig o dda, yn llawn brwdfrydedd ac yn dangos hyder wrth sgwrsio yn Gymraeg. Da iawn, bawb! 👏
💬 Cofiwch, mae pob sgwrs fach yn cyfrif! Y tro nesaf y byddwch chi allan yn Wrecsam, beth am roi cynnig ar ddefnyddio’ch Cymraeg yn y siopau?
🌟 Celebrating Welsh language skills at Siaradfest! 🗣️❤️
Three of our pupils proudly took part in Siaradfest at Tŷ Pawb, as part of a pilot scheme to develop and promote the use of the Welsh language.
This exciting opportunity forms part of the Cyflawni Nod project, following a visit by school leaders to Friesland to explore multilingualism and how different languages are used in everyday life.
Our pupils were a real credit to the school — demonstrating excellent behaviour, enthusiasm and confidence as they conversed in Welsh. Da iawn, bawb! 👏
💬 Remember, every little conversation counts! Next time you’re out and about in Wrecsam, why not have a go at using your Welsh in the shops?










