Os hoffech wneud cais am le yn Ysgol Llan-y-pwll, gallwch wneud cais ar-lein am le ar www.wrecsam.gov.uk/service/derbyniadau-ysgol neu e-bostiwch [email protected] am fwy o gymorth. Mae’r Awdurdod yn defnyddio gwasanaeth derbyniadau ar lein. Yr Awdurdod Addysg yw’r Awdurdod Derbyn a byddant yn glynu at eu polisi wrth wneud eu penderfyniadau. Mae’r Awdurdod, fodd bynnag, yn sicrhau lle i blentyn mewn Ysgol Gymraeg os yw’r rhieni yn dymuno cael addysg ddwyieithog iddo/iddi. Rhaid i blentyn fod yn dair oed ar, neu cyn Awst 31ain, i gael ei derbyn i’r Meithrin ym mis Medi. Mae ceisiadau ar gyfer lle yn y dosbarth Meithrin yn agor ym mis Ionawr. Ni fydd yr Awdurdod yn cynnig cludiant i unrhyw blentyn yn y dosbarth Meithrin. Nid yw cael cynnig lle yn y Meithrin yn sicrhau lle i blentyn yn y dosbarth Derbyn. Gellid gwneud cais ar gyfer lle yn y dosbarth Derbyn cyn y mis Tachwedd fydd y plentyn yn troi yn bedair erbyn y mis Medi canlynol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol.
Dosbarth Meithrin: Darperir Addysg Feithrin am ddwy awr a hanner o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9.10yb hyd at 11.40yb yn Ysgol Llan-y-pwll. Mae plant yn cael eu derbyn i’r dosbarth Meithrin yn y mis Medi yn dilyn eu trydydd penblwydd.
Dosbarth Derbyn : Darperir Addysg llawn amser yn y dosbarth Derbyn o 9.10yb hyd at 3.25yp yn Ysgol Llan-y-pwll o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae plant yn cael eu derbyn i’r dosbarth Derbyn yn y mis Medi yn dilyn eu penblwydd yn bedair oed.
Addysg Gynnar : Mae hwn yn brosiect a ariennir gan y llywodraeth a bydd yn cael ei redeg ar safle’r ysgol gan Gylch Meithrin Llan-y-pwll. Mae’n rhoi cyfle i ddysgu drwy hwyl a chwarae mewn amgylchedd diogel ac ysgogol. Fydd staff cymwys yn darparu amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau ym mhob maes dysgu a datblygiad plentyn. Fe fydd darpariaeth Addysg Gynnar ar gael i ddisgyblion o’r mis Ionawr neu’r mis Ebrill ar ôl iddynt ddathlu eu pen-blwydd yn 3 oed. Cysylltwch gyda Cylch Meithrin Llan-y-pwll neu’r ysgol am fwy o fanylion am ddarpariaeth Addysg Gynnar.
Dechrau’n Deg : Gall blant fynychu’r tymor ar ôl iddynt ddathlu eu penblwydd yn ddwy tan ddiwedd y tymor ar ôl troi yn dair. Mae Ymwelwyr Iechyd yn cyfeirio plant ac mi wnawn adael i chi wybod os oes lle ar gael. Mae Cylch Llan-y-pwll yn derbyn plant Dechrau’n Deg.
Darpar Rieni ac Ymweld â’r ysgol
Gwahoddwn ddarpar rieni i gysylltu â’r ysgol i drefnu ymweliad gyda’r ysgol. Mae croeso cynnes i chi ddod yn ystod oriau ysgol, nid yn unig i weld y Pennaeth a’r staff, ond hefyd i brofi awyrgylch yr ysgol. Neu, os mae’n fwy hwylus i chi, gallwn drefnu cyfarfod ar ôl ysgol.
Trosglwyddo : Ar ôl gorffen blwyddyn chwech mae’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam.
If you would like to apply for a place at Ysgol Llan-y-pwll, you can apply online at www.wrexham.gov.uk/service/school-admissions or email [email protected] for more help. The Authority uses an online admissions service. The Education Authority is the Admission Authority and will adhere to their policy when making decisions. The Authority does however secure a place for a child at a Welsh Medium School if parents or guardians wish to receive a bilingual education for him / her. A child must be three years of age on or before August 31st to be allocated a place in the Nursery class in September. Applications for the Nursery class open from January. The Authority will not offer transport to any child of nursery age. Being offered a place in the Nursery class does not guarantee a place for a child in Reception. You need to apply for a place in the Reception class by the November when your child turns four before the following September. If you have any questions, please do not hesitate to contact the school.
Nursery Class: Nursery Education at Ysgol Llan-y-pwll is provided for two and a half hours on Monday to Friday from 9.10am until 11.40am. Children are admitted to the Nursery class in the September following their third birthday.
Reception Class: Full time Education in Ysgol Llan-y-pwll is provided for Reception class and older pupils from 9.10am until 3.25pm Monday to Friday. Children are admitted to Reception in the September following their fourth birthday.
Early Education: This is a government funded project that is run on the premises of the school by the Cylch Meithrin Llan-y-pwll. It provides an opportunity to learn through fun and play in a safe and stimulating environment. Qualified staff provide a variety of activities and experiences in all areas of a child’s learning and development. Early Education provision will be available to pupils in the January or April following their 3rd birthday. Contact Cylch Meithrin Llan-y-pwll or the school for more details.
Flying Start : Children can attend Flying Start sessions the term after their second birthday until the end of the term when they have turned three. Health visitors will refer children and they will let you know if there is a space. Cylch Llan-y-pwll accepts Flying Start children.
Prospective Parents and Visiting the school: We invite prospective parents/guardians to contact the school to arrange a visit during school hours, not only to see the Headteacher and staff, but also to experience the school atmosphere. If however, you would prefer a meeting after school, we can also accommodate this.
Transition: After completing year six the pupils transfer to Ysgol Morgan Llwyd, Wrexham.

