Ffair Haf 2026 Summer Fair

Diolch o galon i bawb a helpodd i wneud ein Ffair Haf ddoe yn llwyddiant ysgubol!
Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser a’u cefnogaeth – boed drwy helpu gyda’r cynllunio, paratoi’r stondinau, rhedeg gweithgareddau, cyfrannu eitemau, dod i’r ffair, gwario arian yn y stondinau, neu aros ar y diwedd i helpu i dacluso. Gwnaeth pob cyfraniad, boed yn fawr neu’n fach, wahaniaeth gwirioneddol.
Diolch arbennig hefyd i’n plant gwych, a wnaeth y diwrnod mor arbennig gyda’u gwên, eu chwerthin a’u brwdfrydedd. Roedd yn hyfryd gweld pawb yn mwynhau eu hunain ac yn cael amser bendigedig.  Diolch i Mudiad Meithrin a Menter Iaith am eu hadloniant ac am ein helpu i hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg.
Diolch unwaith eto am helpu i greu digwyddiad cymunedol mor gofiadwy. Ni fyddem wedi gallu ei wneud heb eich cefnogaeth!
A huge thank you to everyone who helped make our Summer Fair such a wonderful success yesterday!
We are incredibly grateful to everyone who gave their time and support, whether you helped with the planning, set up stalls, ran activities, donated items, attended the fair, spent money at the stalls, or stayed behind to help tidy up afterwards. Every contribution, big or small, made a real difference.
A special thank you also goes to our amazing children, whose smiles, laughter and enthusiasm made the day so special. It was wonderful to see everyone having such a fantastic time together.  Thank you also to Mudiad Meithrin and Menter Iaith for their entertainment and for helping us promote Welsh Medium Education.
Thank you once again for helping to create such a memorable community event. We couldn’t have done it without you!